Delwedd yn crynhoi datganiadau 90 eiliad yng nghyfarfod Plenari SIC. Pynciau yn cynnwys Diwrnod y Rhuban Gwyn, tyfu fyny fel merch Mwslemaidd yng Nghymru, argyfwng costau byw, sganio'r galon i bobl ifanc, Pleidlais 16, anabledd ac iechyd meddwl, gwerthoedd Cwpan y Byd, dewsisiadau pynciol ac ieithyddol mewn ysgolion, mislif ac Iechyd Meddwl ac argyfwng Costau Byw mewn clybiau Ieuenctid.

Crynodeb gweledol o gyfarfodydd SIC

Cyhoeddwyd 20/12/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/01/2023   |   Amser darllen munudau

Trafodaethau ar ein prif Themâu mewn delweddau

Yn ystod penwythnos preswyl y Senedd Ieuenctid yn Nhachwedd - cawsom gyfle i ddweud ein dweud ar faterion pwysig y dydd. Yn ogystal â lansio ein hadroddiad 'Meddyliau Iau o Bwys' ar iechyd meddwl pobl ifanc yng Nghymru, buom hefyd yn clywed diweddariadau gan y Pwyllgorau Hinsawdd a'r Amgylchedd ac Addysg a'r Cwricwlwm Ysgolion.

Isod ceir crynodeb gweledol o'r pynciau a drafodwyd.

Ein Hiechyd Meddwl a'n Lles

Yr Hinsawdd A'r Amgylchedd

Addysg a'r Cwricwlwm Ysgol

Darluniau graffig drwy garedigrwydd @treesandpaintbrushes

Datganiadau 90 eiliad

Cawsom gyfle hefyd i wneud datganiad 90 eiliad o hyd ar bwnc o'n dewis. Roedd y pynciau a gyfeiriwyd atynt yn eang ac yn drawiadol– o werthoedd Cwpan y Byd i sgrinio'r galon ar gyfer pobl ifanc. Mae'r ddelwedd isod yn crynhoi'r holl bynciau a drafodwyd (a ddarluniwyd eto gan @treesandpaintbrushes).