I chi, i'r dyfodol.
Ymunwch â ni. Cofrestrwch am newyddion diweddaraf am Senedd Ieuenctid Cymru.
Ymunwch â ni. Cofrestrwch am newyddion diweddaraf am Senedd Ieuenctid Cymru.
Rydym ni eisiau i'ch llais gael ei glywed fel rhan o'r broses ddemocrataidd yng Nghymru. Rhannu eich barn, eich syniadau a gwneud Cymru yn lle gwell. I bawb.
Trafod y pethau rydych chi eu heisiau a’u hangen, a’r materion sy’n bwysig i chi.
Defnyddio Senedd Ieuenctid Cymru i godi’ch llais i wneud gwahaniaeth go iawn i chi, ar gyfer y dyfodol.
Efallai nad ydych chi’n cael pleidleisio nes i chi droi’n 18 oed, ond bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn ymgyrchu ac yn trafod ar eich rhan.
Mae'n amser i chi gyfrannu at wleidyddiaeth Cymru.
I siarad am y pethau rydych chi eu heisiau, y pethau sydd eu hangen arnoch a'r pethau sy'n bwysig i chi. Pam y dylech aros nes y byddwch yn 18 cyn cael dweud eich dweud? Codwch eich llais nawr a helpwch i lunio eich dyfodol chi a dyfodol pobl ifanc eraill yng Nghymru.
Fe wnaethoch chi ofyn am senedd ieuenctid, ac fe wnaethom ni wrando. Yr ymgynghoriad hwn yw cam cyntaf y broses o sicrhau bod eich barn yn cael ei chlywed ar bob mater.
Beth y dylai eich senedd ieuenctid gael ei galw? Mae'r enwau sydd wedi'u hawgrymu yn cynnwys 'Senedd Ieuenctid Cymru'. Rydym am glywed eich barn chi.
Beth y dylai eich senedd ieuenctid geisio ei wneud? Beth y dylai'r senedd ieuenctid gael fel pwrpas, fel bod modd ei ddeall a'i rannu'n hawdd?
A ddylai eich senedd ieuenctid gael 60 aelod i adlewyrchu nifer Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol? Helpwch i benderfynu sut y bydd yr aelodau hyn yn cael eu hethol er mwyn sicrhau bod holl bobl ifanc Cymru yn cael eu cynrychioli.
Sut yr ydych chi'n credu y dylai aelodau drin ei gilydd a'r bobl y maen nhw'n eu cynrychioli? Dywedwch wrthym sut y byddech chi am gael eich trin pe bai chi'n cael eich ethol.
Helpwch i lunio beth y dylai eich senedd ieuenctid ei wneud, pa faterion y dylai eu trafod a sut y dylid blaenoriaethu'r gwaith. Eich senedd chi fydd hi a chi a ddylai benderfynu beth fydd ei rôl.
Mae miloedd ohonoch wedi rhoi eich sylwadau, awgrymiadau a syniadau i ni ynghylch sut y dylai eich senedd ieuenctid edrych.
Gwyliwch Siwan yn trafod sut mae hi eisiau senedd ieuenctid i’w chynrychioli hi a phobl ledled Cymru
Yn gynharach eleni, fe wnaethoch ddweud wrthym eich bod am gael senedd ieuenctid i'ch cynrychioli chi, a heddiw mae gennym newyddion cyffrous!