Mis Hanes LGBT mewn 10 Llun

Helo, Finlay Bertram ydw i, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru ar gyfer Gorllewin Casnewydd. Fel y mae rhai ohonoch chi'n gwybod, Chwefror yw'r Mis Hanes LGBT swyddogol.

Mae Mis Hanes LGBT yn caniatáu i gyfeillion ac aelodau'r gymuned LGBTQ edrych yn ôl dros hanes y mudiad hawliau LGBTQ i weld y cynnydd sydd wedi'i wneud; yn ogystal ag edrych i'r dyfodol a meddwl am y newidiadau sydd eu hangen er mwyn i unigolion LGBTQ fod yn gwbl gyfartal mewn cymdeithas.

Rwy'n credu mai Mis Hanes LGBT yw'r cyfle perffaith i addysgu ein hunain ac eraill ynghylch y brwydrau y mae pobl LGBTQ fel cymuned wedi bod drwyddyn nhw yn y gorffennol agos i atgoffa ein hunain pam na ddylen ni fyth roi'r gorau i frwydro dros gydraddoldeb a pham y dylen ni bob amser fod yn falch o bwy ydym ni. Rwy'n credu ei bod hefyd yn amser i edrych yn ôl a diolch i'r gweithredwyr hawliau LGBTQ blaenllaw hynny a ddylai, er nad ydyn nhw yn y llyfrau hanes, ddal lle annwyl yng nghalon pob person LGBTQ.

Fel rhywun LGBTQ sy'n aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, cynigwyd y cyfle imi greu dyddiadur o fy Mis Hanes LGBT gan ddefnyddio lluniau. Derbyniais y cynnig ar unwaith gan fy mod i'n credu y byddai'n ffordd wych imi rannu pam mae'r Mis yn bwysig imi, yn ogystal ag addysgu eraill ar pam nad yw'r frwydr dros hawliau LGBTQ wedi dod i ben eto.


26 Ionawr - Gweithdy Fforwm Ieuenctid Pride Cymru

finlay1.png

Yn union cyn i'r Mis ddechrau, mynychais weithdy a gynhaliwyd gan Pride Cymru yn canolbwyntio ar sut y byddai Fforwm Ieuenctid LGBTQ yn gweithredu pe bai un yn cael ei sefydlu yng Nghymru.

Y syniad y tu ôl i'r fforwm ieuenctid yw rhoi lle diogel ar-lein ac yn bersonol i bobl ifanc LGBTQ fod yn nhw eu hunain heb unrhyw ofn o aflonyddu. Byddai'r fforwm hefyd yn cynnig cymorth meddwl arbenigol ar sail fesul achos ar gyfer materion sy'n benodol i'r brwydrau sy'n wynebu pobl LGBTQ. 

Ces i gwrdd â dwsinau o bobl ifanc ysbrydoledig sy'n gweithio'n galed yn y fforwm a chyflwynodd bawb syniadau gwych am sut y dylai'r fforwm weithio pe bai'n cael ei lansio.

Rwy'n credu ei fod yn hynod bwysig bod gan unigolion LGBTQ le i fynegi eu hunain yn rhydd a bod yn nhw eu hunain. Rwy'n credu bod y nifer uchel o bobl ifanc yn y gweithdy yn dangos pa mor angerddol yw pobl ifanc ynghylch helpu eraill a pham mae angen y math hwn o fforwm.


5 Chwefror - Siarad â fy mhennaeth chweched dosbarth am bwysigrwydd Mis Hanes LGBT

finlay2.png

Cyn imi allu gwneud unrhyw beth yn fy ysgol ar gyfer y Mis Hanes LGBT, bu'n rhaid imi siarad gyda fy mhennaeth chweched dosbarth, Mrs James, ynghylch pam mae'n bwysig bod hanes y mudiad hawliau LGBTQ yn cael ei gofio a'i ddathlu. Eglurais iddi fod y Mis hwn yn amser i edrych yn ôl ar gyflawniadau'r mudiad yng Nghymru ac i ddathlu ymgyrchwyr hawliau LGBTQ Cymreig blaenllaw. Cytunodd Mrs James yn llwyr â phopeth a eglurais ac felly gwnaethom ddechrau cynllunio yr hyn y gallwn i ei gynnwys yn fy nghyflwyniad.


8 Chwefror - Toiledau rhywedd niwtral yng Nghaergrawnt

finlay3.png

O ddydd Iau 7 Chwefror i ddydd Sadwrn 9 Chwefror, roeddwn i'n ddigon ffodus i gael fy nerbyn ar Gynllun Cysgodi Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caergrawnt.

Yn ystod fy amser yng Nghaergrawnt, llwyddais i gwrdd â'r tîm y tu ôl i'r toiledau rhywedd niwtral cyntaf ym Mhrifysgol Caergrawnt. Roedd Ali Hyde (chwith) a Lara Parizotto (canol) yn ddau o'r aelodau y tu ôl i'r toiledau a weithredwyd ar 1 Chwefror 2019, a oedd yn cyd-ddigwydd â diwrnod cyntaf y Mis Hanes LGBT.

Ymgyrchodd Ali Hyde, Is-lywydd JCR neu'r undeb myfyrwyr, ar gyfer toiledau rhywedd niwtral am dros bedair blynedd fel rhan o ymgyrch LGBTQ undeb myfyrwyr ei choleg. Er mwyn gwahaniaethu rhwng y ddau doiled mae eiconau bach o droethfeydd neu doiledau eistedd ar y drysau.

Mae Ali a Lara o'r farn na ddylai toiledau fod â rhywedd oherwydd, mewn toiledau gyda rhywedd, gall pobl eraill blismona rhywedd pobl drawsrywiol gan arwain iddyn nhw'n teimlo'n anniogel. Roedden nhw hefyd yn dweud bod pobl anneuaidd yn teimlo bod eu hunaniaeth yn cael ei annilysu gan arwyddion toiled traddodiadol ar gyfer dynion neu fenywod.


 11 Chwefror - Y cyflwyniad ar Fis Hanes LGBT

finlay4.png

Ar ôl fy nghyfarfod â Mrs James, roeddwn i'n gwybod beth oedd yn rhaid imi ymchwilio iddo er mwyn cwblhau fy nghyflwyniad ar y Mis Hanes LGBT. Penderfynais edrych ar ffigurau amlwg o hanes Prydain a frwydrodd dros y mudiad hawliau LGBTQ megis Mark Ashton yn ogystal â rhai wynebau enwog cyfredol, gan gynnwys Gareth Thomas.

Rydw i hefyd wedi cynnwys y pedwar prif ffigwr sy'n cynrychioli'r Mis Hanes LGBT yn swyddogol eleni: Mariella Franco, Magnus Hirschfield, Robert Graves a Marsha P Johnson. Mae'r arwyr hyn yn rhoi golwg ehangach a mwy amrywiol o hanes LGBTQ na hyd yn oed yr hyn y mae'r rhan fwyaf o bobl LGBTQ yn gwybod amdano.

Rwy'n credu ei fod yn hynod bwysig i bobl - yn enwedig pobl ifanc - wybod am hanes y mudiad hawliau LGBTQ yn ogystal â ffigurau pwysig o'r gorffennol fel y gallan nhw ddeall yn well faint o gynnydd mae'r mudiad wedi'i wneud.

Rwy'n credu y bydd hefyd yn caniatáu i bobl ddeall yn well pam y mae dweud pethau sy'n ymddangos yn ddibwys, fel yr ymadrodd "that's so gay" yn arwain at ganlyniadau ar raddfa fawr i'r homoffobia a'r trawsffobia sylfaenol sy'n bodoli yn ein cymdeithas


12 Chwefror - Gwthio hawliau LGBTQ fel pwnc allweddol yng Nghyngor Ieuenctid Casnewydd

finlay5.png

Yn ein cyfarfod misol gyda Chyngor Ieuenctid Casnewydd, gofynnwyd inni enwi tri phwnc sy'n bwysig inni fel pobl ifanc yng Nghasnewydd.  Bydd y tri phwnc mwyaf poblogaidd a ddewisir gan holl aelodau'r cyngor yn cael eu cario ymlaen i'r flwyddyn nesaf. Fel un o fy mhynciau i, dewisais addysg ynghylch diogelwch a hawliau LGBTQ mewn ysgolion. Fel cadeirydd dros dro y cyngor, mi fydda i'n defnyddio fy mhŵer i ymgyrchu dros y pynciau sydd bwysicaf imi a phobl ifanc ledled Casnewydd.


15 Chwefror - Drafft o fy araith

finlay6.png

Cyn cyfarfod preswyl cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru ar 22 Chwefror, mae'n rhaid ini gyd ysgrifennu araith dwy funud am un o'r materion y credwn y dylai Senedd Ieuenctid Cymru ganolbwyntio arno dros y ddwy flynedd nesaf.

Dewisais hawliau LGBTQ fel fy mhwnc gan fy mod i'n credu ei fod yn cael ei anwybyddu'n gyffredinol fel rhywbeth sydd wedi cyflawni ei nod terfynol ers i gydraddoldeb priodas gael ei sicrhau yn y DU. Dwi ddim yn meddwl bod hyn yn wir gan fy mod i'n gallu gweld mewn cymdeithas fod llawer o ffyrdd o hyd nad yw unigolion LGBTQ yn gyfartal.

Rwy'n credu bod cydraddoldeb priodas yn gam gwych i'r cyfeiriad cywir ar gyfer hawliau LGBTQ, ond ni ddylai byth gael ei ystyried y nod terfynol o ran ein cydraddoldeb.

Yn fy araith, rwy'n trafod pam mae hawliau LGBTQ yn bwysig imi a pham mae angen i bethau newid mewn cymdeithas. Rwy'n cyfeirio at therapi trawsnewid, y Ddeddf Cydnabod Rhywedd hen ffasiwn a homoffobia a thrawsffobia cymdeithasol i ddangos gwir anghydraddoldeb ein cymdeithas, yn ogystal â ffyrdd y gallwn ni wrthdroi'r anghyfiawnder hwn.


20 Chwefror - Edrych ar lyfrau LGBTQ yn Llyfrgell Casnewydd

finlay7.png

Cefais fy synnu ar yr ochr orau o ddarganfod bod gan Lyfrgell Dinas Casnewydd adran lawn yn ymroddedig i lenyddiaeth LGBTQ. Roedd llawer o wahanol fathau o lyfrau yn yr adran yn amrywio o ffuglen homo-ramantus i lyfrau ar gyngor ar sut i ddod allan i wahanol bobl i lyfrau sy'n canolbwyntio ar hanes LGBTQ ym Mhrydain ac yn fyd-eang.

Rwy'n credu ei bod yn gwbl anhygoel bod Llyfrgell Casnewydd yn cynnig ystod mor eang o lenyddiaeth LGBTQ gan ei fod yn caniatáu i bobl ddysgu mwy am eu hanes a'r frwydr i gyrraedd lle rydym ni nawr. Mae ehangder y llyfrau LGBTQ a gynigir hefyd yn bwysig iawn i bobl ifanc LGBTQ neu bobl chwilfrydig gan ei fod yn cynnig lle iddyn nhw deimlo fel eu bod nhw'n cael eu derbyn fel nhw eu hunain, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n gwybod pwy ydyn nhw eto.

Rydw i hefyd o'r farn bod ystod y ffuglen LGBTQ sydd ar gael yn rhad ac am ddim yn y llyfrgell yn rhoi cyfle anhygoel i'r rhai sydd am weld eu hunain a'u cariad yn cael eu cynrychioli ar dudalennau llyfr. Rwy'n credu bod cynrychiolaeth yn hynod bwysig i nod cyffredinol hawliau LGBTQ, ac i unigolion LGBTQ.

Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iawn i Lyfrgell Casnewydd am gynnig dewis mor eang o lyfrau sy'n caniatáu i bobl LGBTQ deimlo eu bod yn cael eu derbyn a'u cynrychioli. 


Sut mae pethau wedi gwella 

finlay8.png

Byddai'n dwp dweud na fu unrhyw newid cymdeithasol a gwleidyddol cadarnhaol tuag at y gymuned LGBTQ. Hyd yn oed yn y genhedlaeth ddiwethaf, mae Cymru wedi dod yn lle llawer llai anoddefgar o ran unigolion LGBTQ.

Mae newidiadau deddfwriaethol megis dirymu adran 28, camau enfawr mewn cydnabyddiaeth gyfreithiol ar gyfer unigolion trawsrywiol ac, yn amlwg, y ffaith bod priodas o'r un rhyw wedi dod yn gyfreithiol ledled y wlad, yn dangos taith Cymru yn y cyfeiriad cywir o ran pobl LGBTQ.

Mae sefydliadau fel Pride Cymru, Stonewall a llawer o rai eraill wedi caniatáu i bobl LGBTQ fod yn nhw eu hunain ac i oresgyn rhagfarnau cymdeithasol ar y cyd. Mae gweithredwyr hawliau LGBTQ amlwg Cymru megis Griff Vaughan Williams, Dai Donovan and Gloria Jenkinsyn ogystal ag Aelodau Cynulliad LGBTQ fel Hannah Blythyn wedi helpu'r mudiad yn ei frwydr i dderbyn pobl LGBTQ.

Mae gennym ni ffordd bell i fynd o hyd, ond allwn ni ddim anwybyddu'r newidiadau rydym ni eisoes wedi'u gwneud. 


Beth sydd angen newid

finlay9.png

Er gwaethaf y newid cadarnhaol rydyn ni wedi'i weld yng Nghymru, dwi dal ddim yn credu bod unigolion LGBTQ yn cael yr un ansawdd bywyd â'n cyfoedion heterorywiol.

Yn ôl yr arolwg mwyaf o'i fath, nid yw dwy ran o dair o gyplau o'r un rhyw yn teimlo'n gyfforddus yn dal dwylo gyda'u partner yn gyhoeddus. Ni ddylai neb deimlo'n ofnus nac yn anghyfforddus yn dangos eu cariad i'r byd.

Mae'r gyfradd genedlaethol ar gyfer hunanladdiad mewn unigolion LGBTQ deirgwaith yn uwch nag ar gyfer unigolion heterorywiol. Nid yw hynny'n gyd-ddigwyddiad. Mae angen i gymdeithas newid yn sylweddol ac rwy'n credu mai'r ffordd orau o wneud hyn yw drwy ddarparu addysg ar gydraddoldeb a gwahaniaeth sy'n dechrau'n ifanc, yn ogystal â chymorth penodol o ran rhywedd a rhywioldeb mewn ysgolion.

Rhaid i unigolion LGBTQ wynebu adroddiadau negyddol yn y cyfryngau sy'n eu gwawdio, y bygythiad o golli ffrindiau a theulu ar ôl dod allan, ofn cael eu bwlio am bwy ydyn nhw, yn ogystal â throseddau casineb corfforol ac ar lafar a gwahaniaethu am ddangos eu cariad yn gyhoeddus.

Mae hyn imi - ac rwy'n credu i unrhyw berson tosturiol - yn anhygoel o anghywir a rhaid ei newid. Gyda'n gilydd gallwn ni helpu i wneud gwahaniaeth. 


23 Chwefror - Araith yn y Senedd

finlay10.png

Mae wedi bod yn bleser mawr gallu dweud fy mod i wedi siarad yn y Siambr yn y Senedd ygnhyclh mater rwy'n angerddol iawn yn ei gylch. Rwy'n gobeithio fy mod i wedi agor llygaid o leiaf un o fy nghyd-Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru i'r anghydraddoldebau sy'n wynebu pobl LGBTQ yng Nghymru, oherwydd pe bai dim ond un person arall yn derbyn y gymuned LGBTQ, gallwn i gysgu'n dawel yn gwybod fy mod i'n raddol yn gwneud y byd yn lle gwell.

Gallwch wylio fy araith isod: