Diolch

Awdur Llywydd   |   Cyhoeddwyd 13/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munudau

Faint o bobl sydd eu hangen i adeiladu senedd ieuenctid sy'n cynrychioli'r holl bobl ifanc yng Nghymru?

Urdd.png

Llawer.

Mae miloedd ohonoch wedi rhoi eich sylwadau, awgrymiadau a syniadau i ni ynghylch sut y dylai eich senedd ieuenctid edrych.

Diolch.

Dechrau'r daith yw hyn. Ar ôl gwrando arnoch chi ac addo sefydlu senedd ieuenctid sy'n cynrychioli pob un ohonoch, roedd yn bwysig gofyn i chi beth yr oeddech chi ei eisiau.
 
Rydym wedi ein syfrdanu gyda'r ymateb yr ydych wedi'i roi i ni. I bawb y gwnaethom gyfarfod â chi ar hyd y lle, ac a lenwodd y ffurflenni ymgynghori wyneb yn wyneb ac ar-lein, rydym yn ddiolchgar iawn am eich cyfraniad i helpu i greu eich senedd ieuenctid.

Rydych chi wedi dweud wrthym:

  • Sut rydych am i'ch senedd ieuenctid eich cynrychioli chi
  • Pa enw a ddylid ei roi ar y senedd ieuenctid a phwy ddylai fod yn aelodau ohoni
  • Sut rydych am i'ch senedd ieuenctid weithio
  • Beth ddylai gwerthoedd y senedd ieuenctid fod.

Rydym yn awr yn hyderus bod gennym amrywiaeth eang o safbwyntiau a barn i greu'r senedd ieuenctid a fydd yn gwneud Cymru'n lle gwell i chi, ar gyfer eich dyfodol.

Byddwn yn cadw mewn cysylltiad.

PO signature.png

Elin Jones AC/AM
Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru