Grymuso democratiaeth Cymru wrth lansio Senedd Ieuenctid

Yn aml, caiff pobl ifanc eu cyhuddo o fod heb ddiddordeb ac wedi eu dadrithio  gan wleidyddiaeth.

Ond 'does dim angen edrych ymhellach nag ymdrechion Jeremy Corbyn i hudo’r genhedlaeth ifanc neu’r ymateb angerddol a gafwyd i’r bleidlais Brexit fel tystiolaeth o'n diddordeb gweithredol mewn  materion gwleidyddol. 

IMG_3946.png

Yr allwedd at gynnau diddordeb mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru yw medru efelychu’r fath frwdfrydedd wrth drafod testunau sy’n berthnasol i ni yma.

Yn ôl ymchwil diweddar gan Gymdeithas Hansard, nid oes gan Gymru fel gwlad ddealltwriaeth na ddiddordeb helaeth mewn materion gwleidyddol.

I fod yn gywir, mae gan Gymru lai o ddealltwriaeth gwleidyddol nag unrhyw wlad arall y Deyrnas Unedig. 

Mae angen rhywbeth felly sy'n medru ymgysylltu pobl â gwleidyddion er mwyn meithrin diddordeb gwleidyddol y genhedlaeth newydd. Rwy'n credu, heb amheuaeth, bod lansio’r Senedd Ieuenctid yn gwireddu'r dyhead yma.

Cymru yw’r wlad olaf yn Ewrop i ffurfio Senedd Ieuenctid ac, er gwaethaf yr oedi, rydym nawr ar droethwy euraidd i gyfrannu tuag at ddatblygiad democratiaeth ein gwlad.

Un feirniadaeth sy’n cael ei thargedu at bobl ifanc yn rheolaidd yw nad oes gennym ddealltwriaeth ddigonol i gyfrannu at drafodaethau gwleidyddol.

Mae’r pwynt yma’n codi’n aml wrth drafod rhoi’r bleidlais yn 16 oed. Mae'r Senedd Ieuenctid yn cynnig sylfaen i bobl ifanc o bob cefndir i feithrin dealltwriaeth o wleidyddiaeth ein gwlad.

Trwy ymgymryd â'r broses ddemocrataidd a chael llwyfan i drafod amrywiaeth o bynciau treiddiol, y gobaith yw y bydd y Senedd Ieuenctid yn arwain at genhedlaeth o bobl ifanc wybodus am wleidyddiaeth ac o'n hawliau democrataidd i leisio barn a datblygu polisiau.

Wrth lansio Senedd Ieuenctid Cymru yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed, cadarnhaodd  Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AC, y byddai pobl o bob cwr o Gymru yn medru sefyll yn yr etholiad.

Heb os, mae cynrychiolaeth ranbarthol yn bwnc tanboeth yng Nghymru ac mae'n holl bwysig fod  gan bobl ifanc o bobl ardal o Gymru y cyfle i drafod problemau ac anawsterau lleol ar lwyfan cenedlaethol yn ogystal â chynnig safbwyntiau newydd ac arloesol. Mae angen y blwraliaeth yma wrth geisio ddod o hyd i atebion i’r problemau hynny.  

Mae gwleidyddion yn datgan byth a hefyd eu bod yn gwrando a'n gwerthfawrogi mewnbwn pobl ifanc -  mae'r Senedd Ieuenctid yn rhoi'r cyfle nawr  iddynt fedru gweithredu ar eiriau a dyheadau'r genhedlaeth ifanc.

Yn ystod y lansiad cefais gyfle i gyfweld â'r Llywydd ac Aelod Cynulliad dros Geredigion, Elin Jones.

Roedd hi'n awyddus i bwysleisio'r  arwyddocâd o gael cynrychiolaeth ledled Cymru yn y Senedd Ieuenctid.

“Bydd y broses o ethol, o gofrestru ac o gael ymgeiswyr o bob rhan o Gymru, ynghyd ag etholiadau cyffrous ymhob etholaeth, yn ysgogi ymwybyddiaeth o ddemocratiaeth.”

Mae ymwybyddiaeth gadarn o ddemocratiaeth yn sicr yn hollbwysig er mwyn cyflawni datblygiad gwleidyddol. Ond rwy'n credu fod gwleidyddiaeth draddodiadol yng Nghymru ac yn fwy cyffredinol ym Mhrydain wedi pwysleisio yn pwysleisio'n ormodol ar y pleidiau gwleidyddol, yn hytrach na ffocysu ar y drafodaeth.

Yn absenoldeb gwleidyddiaeth bleidiol, bydd modd i aelodau’r Senedd Ieuenctid canolbwyntio’n ddirwystr ar y trafodaethau sy’n ymgodi, heb y rhyfyg a’r ddrama sy’n perthyn i nifer o drafodaethau gwleidyddol cyfredol.

Mae gan bob unigolyn y gallu i gyfrannu’n ystyrlon at drafodaethau sy’n deillio o’i ddiddordeb personol.

Atgyfnerthodd Elin Jones y pwysigrwydd o drafod pynciau a thestunau sydd o diddordeb i bobl ifanc, gan bwysleisio bod gan wleidyddion ddyletswydd i ysgogi diddordeb ymysg pobl ifanc.

“Mae cyfrifoldeb arnom ni sy’n wleidyddion heddiw i fod yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol i annog pobl ifanc i ymddiddori mewn gwleidyddiaeth, nid jyst gwleidyddiaeth bleidiol, ond materion sydd o ddiddordeb iddyn nhw fel pobl ifanc, pynciau penodol. Ma’ hynny’n gallu bod yn amrywiol iawn o drafnidiaeth, i swyddi, i addysg.”

Rwy'n teimlo'n angerddol bod y Senedd Ieuenctid yn ymgyrch a allai atgyfnerthu gwreiddiau gwleidyddiaeth yma yng Nghymru, yn ogystal â a chynyddu dealltwriaeth gwleidyddol a pharodrwydd pobl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Ond, mae gallu’r Senedd Ieuenctid i gyflawni ei llawn botensial yn llwyr ddibynnol ar ewyllysgarwch gwleidyddion i wrando ac i weithredu ar syniadau’r ieuenctid.

Fel y dywedodd Elin Jones;

“Mae rhaid caniatáu i'r bobl ifanc hynny sy’n cael eu hethol i Senedd Ieuenctid cyntaf Cymru i berchen ar y materion sy’n bwysig iddyn nhw, ac i adlewyrchu Cymru gyfan yn hynny o beth. Ac i fod yn heriol i ni, y Senedd arall, ac i ddweud wrthym ni'r hyn sy’n flaenoriaeth iddyn nhw, a'r hyn maen nhw eisiau gweld yn newid. Ein cyfrifoldeb ni yw gwrando ar eu llais nhw, ac i drafod yr hyn maen nhw wedi’u gosod fel blaenoriaethau ar ein cyfer ni”.

Er bod gwaith pellach i'w wneud i sicrhau bod y Senedd Ieuenctid yn gweithredu’n effeithiol, mae’r arwyddion cynnar yn argoeli’n addawol ar ei gyfer gyda'r penderfyniad i gofrestru ac i bleidleisio’n ddigidol. Mae'r weithred arloesol yn gosod cynsail newydd i ddemocratiaeth yng Nghymru ac yn arwydd calonogol bod y Senedd Ieuenctid yn cydnabod tueddiadau pobl ifanc ac yn fodlon teilwra ei wedd i sicrhau fod gan bob person ifanc fynediad i gofrestru ac i bleidleisio.

Heb amheuaeth rydym mewn cyfnod hynod gyffrous yn hanes gwleidyddiaeth Cymru.

Rwy’n rhagweld y bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn chwarae rôl bwysig wrth gynyddu diddordeb gwleidyddol ymysg pobl ifanc, yn ogystal at agtgyfnerthu cynsail democrataidd ein gwlad.

Yr heriau tyngedfennol i sicrhau llwyddiant y Senedd yw sicrhau bod lleisiau ledled Cymru yn cael eu clywed yn glir, a bod y cydweithio a'r trafod yn cael eu hadlewyrchu yng ngweithredodd a deddfwriaeth y Cynulliad. Yn ngeiriau’r moesolwr, Joseph Joubert,  "Pwrpas dadl neu drafodaeth yw datblygiad, nid buddugoliaeth." Mae gan Senedd Ieuenctid Cymru felly'r cyfle i drawsnewid democratiaeth ein gwlad.


DYMA DY LWYFAN I DDWEUD DY DDWEUD AM Y MATERION SY’N BWYSIG I TI