16 Rheswm i Ymweld ag Eisteddfod yr Urdd

Cyhoeddwyd 22/05/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yn chwilio am rywbeth i’w wneud dros hanner tymor? Mae rhywbeth at bob dant yn Eisteddfod yr Urdd.

1.       Urdd Gobaith Cymru yw’r mudiad mwyaf ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru, ac Eisteddfod yr Urdd yw un o uchafbwyntiau eu calendr blynyddol, yn ogystal ag un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop.

2.       Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf 90 mlynedd yn ôl yng Nghorwen dros gyfnod o ddau ddiwrnod, ond erbyn hyn mae’r ŵyl yn ymestyn dros wythnos gyfan.

all_2018_05_31_urdd_iau_8267.jpg

3.       Yn y dyddiau cynnar, ychydig filoedd oedd yn ymweld â’r Eisteddfod bob blwyddyn, ond yn ddiweddar, mae’r Eisteddfod wedi croesawu dros 85,000 mewn un wythnos!

4.       Mae mynediad i’r maes AM DDIM i bawb eleni – cyfle i unrhyw un ddod i fwynhau’r bwrlwm, y stondinau a’r perfformiadau, gyda golygfeydd Bae Caerdydd yn gefnlen odidog i’r cyfan.

5.       Ddim yn berson sy’n mwynhau perfformio? Paid â phoeni – mae rhywbeth at ddant pawb yn Eisteddfod yr Urdd: pentref chwaraen, Y Gwyddonle a’r arddangosfa Gelf, Dylunio a Thechnoleg yn y Senedd i enwi ond ychydig.

all_2018_05_31_urdd_iau_4512.jpg

6.       Os wyt ti’n un sy’n mwynhau gwylio’r holl gystadlu, chei di ddim dy siomi gyda’r talent sydd i’w weld bob blwyddyn ar lwyfan yr Eisteddfod. Eleni, bydd pawb sy’n cyrraedd y llwyfan yn perfformio ar lwyfan theatr Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm. Gelli di brynu band braich i gael mynediad i’r holl ragbrofion a’r prif gystadlaethau (ond mae’r band am ddim i blant a chystadleuwyr). Mae nifer o actorion llwyddiannus fel Amber Davies, seren y West End, wedi dechrau eu gyrfa ar lwyfan yr Urdd, ac mae’n siŵr y bydd rhai o’r buddugwyr eleni yn enwau cyfarwydd mewn blynyddoedd i ddod.

7.       Tuag at ddiwedd yr wythnos, gelli di wylio’r cystadlaethau sy’n deilwng ar gyfer Ysgoloriaeth Bryn Terfel. Mae’r ysgoloriaeth wedi ei gwobrwyo ers ugain mlynedd bellach, ac mae cefnogaeth Syr Bryn Terfel o’r Eisteddfod yn dyst i’r safon eithriadol sydd i’w weld ar y llwyfan bob blwyddyn.

all_2018_05_31_urdd_iau_4438.jpg

8.       Ddim yn siarad Cymraeg? Does dim ots! Mae croeso i bawb yn yr Eisteddfod, ac os wyt ti’n awyddus i ddysgu ac ymarfer dy Gymraeg, dyma’r cyfle perffaith i wneud! Gelli di gwrdd â dysgwyr a siaradwyr eraill yn adeilad y Pierhead ac ymarfer dy Gymraeg bob dydd wrth grwydro’r maes.

9.       Sôn am ddysgwyr, gwobrwyir dwy wobr eleni i unigolion sydd wedi ymrwymo i ddysgu’r Gymraeg: dyfernir Medal Bobi Jones i berson ifanc rhwng Bl10 a 19 oed a Thlws y Dysgwyr i unigolion rhwng 19 a 25. Cei weld y cyfan yn y pafiliwn.

10.       Nid dyna unig brif wobrau’r Eisteddfod. Gyda bandiau braich, cewch wylio seremonïau y Gadair, y Goron, y Fedal Ddrama a mwy yn Theatr Donald Gordon bob diwrnod. Fe ellwch eu gwylio ar S4C, ond gwell fyth yw bod yng nghanol y pafiliwn yn aros i weld pwy sy’n codi ar ganiad y ffanffer!

✨ URDD, TAFWYL A’R SELAR YN CYFLWYNO LLWYFAN Y LANFA! ✨@allewismusic / @kizzkez / @glainrhys / @_gwilym / @Serasongs / @OMALOMAband / @Pluband / @RhysGwynfor / @patrobasband / Elidyr Glyn @bwncathband @YGanolfan fel rhan o ddathliadau @EisteddfodUrdd • 26-30 Mai AM DDIM! pic.twitter.com/tIKc0dr80j

— Tafwyl (@Tafwyl) May 9, 2019

11.       Eisteddfod yr Urdd yw’r cyfle perffaith i lenwi’ch llyfrau llofnodion! Mae llwyth o selebs Cymru yn Eisteddfod yr Urdd bob blwyddyn ac mae’r maes dafliad carreg o stiwdios Pobol y Cwm a Cyw felly bydd cyfle i dynnu sawl hunlun eleni!

12. Bydd y maes yn llawn perfformwyr o’r Sîn Roc Gymraeg eleni gan fod gigs rhad ac am ddim ar gael drwy’r wythnos ar draws sawl llwyfan. Bydd rhai o fandiau mwyaf blaenllaw Cymru fel Gwilym, Al Lewis, Band Pres Llarregub a Kizzy Crawford (i enwi llond llaw yn unig!) yn perfformio drwy’r wythnos ar lwyfannau’r ŵyl.

all_2018_05_31_urdd_iau_6579.jpg

13.       Os wyt ti’n galw draw i’r Eisteddfod, dere i’r Senedd i gyfarfod Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru. Bydd yr aelodau yn gwirfoddoli ar ein stondin bob dydd ac ar gael am sgwrs am yr hyn sy’n bwysig i ti. Cei gyfle hefyd i gymryd rhan yn ymgynghoriad cyntaf y Senedd Ieuenctid sy’n edrych ar Sgiliau Bywyd yn y Cwricwlwm. Ansicr ar ba ddiwrnod i ddod? Brynhawn Iau bydd sesiwn Hawl i Holi yn y Senedd gydag Elin Jones Llywydd y Cynulliad, Comisiynydd Plant Cymru ac Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru.

14.       Tra bod Llywydd y Cynulliad yn brysur yn mwynhau bwrlwm yr Eisteddfod, mae cyfle i ti fentro i’r Siambr a chael dy lun wedi ei dynnu yn ei chadair! Fel arfer, does dim mynediad i’r cyhoedd i’r Siambr o gwbl, felly manteisia ar y cyfle tra y gelli di.

Siambr (2 of 2).jpg

15.       Chwilio am bâr o sbectol haul newydd? Angen potel ddŵr y gelli di ei hail-lenwi? Wedi defnyddio inc dy feiros i gyd yn dy arholiadau? Yr Eisteddfod yw’r lle delfrydol am freebies – fe ddoi di o hyd iddyn nhw ar y rhan fwyaf o stondinau ‘mond i ti dreulio amser yno yn darganfod mwy am y gwaith maen nhw’n ei wneud a’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig.

16.       Ac yn olaf, os wyt ti’n dod i’r Eisteddfod i gystadlu, gobeithio na chei di gam! Cofia mai’r cymryd rhan sy’n bwysig, ac os na chei di lwyfan – dyna esgus perffaith i ti redeg yn syth i’r ffair gyda dy ffrindiau.

all_2018_05_31_urdd_iau_6171.jpg